Profi yn gweithio mewn ysgolion
Manteision i ddisgyblion
Bydd disgyblion yn elwa trwy ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, hyder a hunan-werth. Byddant yn gweithio gyda busnesau, elusennau a mudiadau eraill sy'n cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau, gyda chymorth a mentora parhaus gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae'r rhaglen yn cynnig gwybodaeth am y cyfleoedd addysgol, cyflogaeth a hyfforddiant sydd ar gael iddynt ac yn rhoi blas iddynt ar weithio ar broject go iawn gyda chleientiaid go iawn. Bydd yr holl brofiad yn cyfoethogi eu haddysg ac yn eu paratoi at y dyfodol.
Manteision i ysgolion
Bydd ysgolion yn elwa trwy wella'r cyfleoedd y gallant eu cynnig i'w disgyblion, gan gyfoethogi eu haddysg a chodi proffil yr ysgol. Mae'r project hefyd yn caniatáu i ysgolion weithio'n agosach gyda busnesau, elusennau a mudiadau lleol yn ogystal â'r brifysgol.
Cyfle anhygoel a fydd yn sicr yn fy helpu i gael dechrau da.”
John Jones, Ysgol XXX