Partneriaeth Profi gyda busnes

Manteision i’ch sefydliad chi

  • Codi proffil eich sefydliad mewn ysgolion ac yn y gymuned leol  
  • Sicrhau cyhoeddusrwydd i'ch sefydliad yn y wasg leol
  • Ehangu eich rhwydweithiau yn y brifysgol 
  • Ymwneud â sefydliadau a chyflogwyr eraill sy'n cymryd rhan
  • Dod i adnabod myfyrwyr y gallech eu cyflogi wedi iddynt raddio a chael cydweithio â hwy
  • Manteisio ar egni a chreadigrwydd pobl ifanc 
  • Cyfle i ennill £500 er mwyn rhoi'r cynnig project ar waith
  • Cysylltu â phobl ifanc sy'n awyddus i wirfoddoli i helpu eu cymuned leol
  • Cyfle i ddysgu mwy am eich rhanddeiliaid drwy weithgareddau theatr fforwm 

Dyma sy'n rhaid i chi ei wneud

  • Gweithio gyda ni i lunio briff i'r timau a fydd o fantais i'ch sefydliad 
  • Bod yn bresennol yn lansiad y project ym mis Tachwedd a chyflwyno eich briff i'r timau 
  • Mynd i weithdai 2 awr mewn tair ysgol (a hwylusir gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor sy'n gwirfoddoli) fel y gall disgyblion ddysgu mwy am eich sefydliad 
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod rownd derfynol Profi ym mis Mawrth

Drwy gefnogi Rhaglen Profi rydym yn gallu cefnogi pobl ifanc yn lleol i ddatblygu sgiliau sy'n hanfodol i fyd gwaith a gwneud iddynt sylweddoli pa mor bwysig ydy pynciau STEM.  Mae hefyd yn eu helpu'n arw i baratoi at yrfa yn y dyfodol ac yn eu helpu  i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n dod i'w rhan. ”

Claire Burgess, Cydlynydd Rhaglen Addysg Horizon

 

Project Busnesau a Sefydliadau sydd wedi cymryd rhan yn y project Profi