Cydweithio ag Elusennau

Manteision i’ch sefydliad chi

Bydd elusennau yn elwa wrth iddynt godi ymwybyddiaeth am eu hachos ymysg pobl ifanc a'r busnesau sy'n gysylltiedig â phroject Profi. Mae'r project yn cynnig cyfle i bobl ifanc weithio ar fater penodol a ddewisir gan elusen a helpu i'w ddatrys, a chael cyfle i ennill swm o arian i gynnal y project. Mae gweithio gyda phroject Profi yn gyfle i fanteisio ar wasanaethau ac adrannau'r brifysgol a all eu cynorthwyo gyda'u gwaith a'u hymchwil.

Rydym yn ofnadwy o falch ein bod ni wedi gallu cymryd rhan ym mhroject Profi eleni. Roedd o'n brofiad cadarnhaol iawn gweld syniadau arloesol a chyffrous yn cael eu datblygu i annog pobl ifanc i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Dyna un o nodau Menter Iaith Môn. Rydym yn edrych ymlaen at gael datblygu'r cynllun i'w lawn botensial

Helen Thomas, Prif Swyddog Iaith, Menter Iaith Môn

Elusennau sy'n cymryd rhan