Croeso i Project Profi

Mae project Profi yn rhaglen ddysgu a mentora trwy brofiad sydd wedi ei llunio i gefnogi myfyrwyr Blwyddyn 12 mewn ysgolion uwchradd lleol. Mae'r cyfranwyr yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy megis gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau yn ogystal â magu hunan hyder ac ehangu eu gorwelion.

Yn dilyn cyfres o 15 gweithdy wythnosol, mae'r disgyblion yn rhoi prawf ar y sgiliau a'r medrau maent wedi eu meithrin dros gyfnod y project o flaen panel o feirniaid mewn digwyddiad tebyg i Dragon's Den.

Dyfernir gwobr ariannol o £500 i'r tîm buddugol i roi eu project cymunedol ar waith.

Facebook