Project Profi yn ennill Gwobr Gymunedol yr Uchel Siryf 2017/2018
Bob blwyddyn mae timau o fyfyrwyr o Wynedd yn cystadlu am y cyfle i ennill £500 i roi eu syniadau ar waith. Yn 2017/18, enillodd y tîm buddugol wobr ariannol a hefyd gwobr Gymunedol yr Uchel Siryf am eu syniad. Cyflwynwyd y wobr i'r enillwyr gan Uchel Siryf Gwynedd, yr Athro Sian Hope.
Cynhaliwyd y digwyddiad eleni yn y Ganolfan Rheolaeth, Bangor. Cydnabu'r Uchel Siryf hefyd y gwaith gwerthfawr a wneir gan aelodau o Dimau Plismona Cymdogaeth sy'n gweithio mor galed i gefnogi ein cymunedau.
Ond syndod mwyaf y noson oedd bod cydlynydd project Profi, Kim Jones, wedi cael gwobr bersonol gan yr Uchel Siryf i gydnabod ei hymrwymiad i gefnogi pobl ifanc trwy'r project Profi
Drwyddi draw, noson ardderchog i dîm Profi a'r cyfranogwyr.
1 Ebrill 2017
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2019