Gwobrau Arts & Business Cymru
Project Profi yn cael ei enwebu am wobr y Celfyddydau, Busnes a'r Gymuned 2018 gyda Horizon power:
Yng ngwobrau chwarter canmlwyddiant Arts & Business Cymru, a noddwyd gan y cwmni ynni byd-eang, Valero, daeth dros 400 o westeion i Ganolfan y Mileniwm ar 25 Mai, i ddathlu a chydnabod partneriaethau arloesol rhwng y sector preifat a'r celfyddydau sydd o fudd i gymunedau ledled y wlad. Eleni comisiynwyd y tlysau gan yr artist o Gaernarfon, Ann Catrin Evans.
Cafodd Project Profi, a noddir gan Horizon Nuclear Power, ei enwebu am wobr y Celfyddydau, Busnes a'r Gymuned 2018. Roedd yn cystadlu yn erbyn y project rhyng-genhedlaeth yr Aloud Charity, 'Home for Christmas', a noddwyd gan Fforwm Gofal Cymru a'r enillwyr yn y pen draw, 'Charter Housing'.
Mae Project Profi, wedi bod o fudd i bron i 250 o unigolion ifanc o Wynedd ac Ynys Môn, trwy wella eu sgiliau bywyd a'u rhagolygon am swydd. Mae Profi bellach yn rhan annatod o Strategaeth Addysg Horizon a chafodd y beirniaid eu taro gan effaith barhaus y project. 25 Mai 2019
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2019