Gwobr Giving Back
Enwebwyd proj ect Profi am y wobr ‘Giving Back’ yng ngwobrau 2019 WHATUNI? Student Choice awards:
Ar 25 Ebrill 2019, cynhaliwyd seremoni wobrwyo WHATUNI Student Choice, gyda dros 160 o brifysgolion yn cymryd rhan. Enwebwyd Prifysgol Bangor mewn 8 categori i gyd, yn cynnwys y wobr ‘Giving Back’, yr enwebwyd profi Project amdani.
Mae'r wobr hon yn cydnabod bod y brifysgol yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar fywydau ei myfyrwyr, a hefyd ar y gymuned leol. Roedd project Profi mewn cwmni gwych, yn cystadlu yn erbyn prifysgolion mawr eraill fel Caerdydd, Newcastle a'r enillwyr yn y pen draw, Birkbeck, Prifysgol Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2019